Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090010 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(1) (e) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Cymhwyso 2. Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf. Ffioedd a eithrir o'r diffiniad o ffioedd yn adran 28(1) o'r Ddeddf. 3. Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf). Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. Dayfdd Elis Thomas Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Awst 1999 RHAN 1 1. Yn yr Atodlen hon ystyr "darpariaeth graidd" mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau yw darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n ymwneud â chwrs a fwriedir, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr gyrraedd hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle bo mwy nag un radd neu gymhwyster yn gynwysedig mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs). 2. Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu nwyddau i'r myfyriwr (p'un ai drwy werthu neu hurio) heblaw nodiadau ar ddarlithoedd unigol, crynodebau o ddarlithoedd neu ddeunyddiau tebyg -
(b) lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr (p'un ai adeg talu'r ffi neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny),
ar yr amod, lle mae nwyddau'n ffurfio rhan o'r ddarpariaeth graidd i'r cwrs a'i bod yn angenrheidiol trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr mewn cysylltiad ag iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr wrth fynychu'r cwrs, ni fydd is-baragraff (b) yn gymwys oni fydd y sefydliad hefyd yn trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr (heb i'r nwyddau ddod yn eiddo i'r myfyriwr) heb dâl. (Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio ffioedd penodol o ystyr "ffioedd" ym Mhennod 1 o Ran II o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ("Deddf 1998"). Mae Adran 28 o Ddeddf 1998 yn darparu diffiniad o "ffioedd" at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf honno, sy'n eithrio categorïau penodol o ffioedd a "such other fees as may be prescribed". Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac maent yn rhagnodi categorïau pellach o ffioedd a eithrir. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr Atodlen. Gwaherddir sefydliadau addysg bellach rhag codi ffioedd "atodol". Mae'r gwaharddiad yn cael ei wneud o dan bwerau a roddir gan Adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998: gorfodir amod ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo osod amod ar y cyllid y mae'n ei ddyrannu i sefydliadau sy'n darparu addysg uwch. O dan drefniadau'r Llywodraeth ar gyfer cyllido addysg bellach, mae myfyrwyr sy'n gymwys i gael cymorth yn gwneud cyfraniad personol at eu ffioedd ar sail asesiad o'u hincwm. Mae'n bosibl na fydd hyn yn fwy na œ1,025 am y flwyddyn sy'n dechrau yn hydref 1999. Er hynny, yn y gorffennol mae prifysgolion a cholegau wedi codi tâl am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhan o "ddarpariaeth graidd" cwrs. Byddai'r gwaharddiad yng yn â ffioedd atodol yn atal hynny, felly mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio taliadau penodol o'r fath o'r diffiniad o ffioedd a gwmpesir gan yr amod sydd wedi'i orfodi. Diben y Rheoliadau hyn yw caniatáu i brifysgolion a cholegau barhau i godi tâl am nwyddau neu wasanaethau fel y maent wedi'i wneud yn draddodiadol. Mae'r Rheoliadau felly yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer parhau ag arferiad sy'n bodoli eisoes.Mae'r Rheoliadau yn diffinio "darpariaeth graidd" i olygu darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â chwrs sydd wedi'i fwriadu, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr ennill hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle mae mwy nag un radd neu gymhwyster wedi'i gynnwys mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs). Bydd y Rheoliadau hyn yn caniatáu codi tâl am nwyddau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd neu lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr; am wasanaethau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd; unrhyw ffi sy'n ad-daliad o unrhyw ffi neu dâl y mae'r sefydliad yn ei dalu i rywun arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs, neu â chwblhau'r cwrs; unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu ddiffyg gan y myfyriwr; unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad. Notes: [1] 1998 p.30.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090010 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |