Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090014 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p*wcirc;er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio Rheoliadau 1986
Darpariaeth drosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") sy'n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy gyfrwng system dalebau ar gyfer costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â darparu, amnewid a thrwsio offer optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasnaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") sy'n darparu ar gyfer y trefniadau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr offthalmig yn darparu gwasanaethau offthalmig odanynt. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i Reoliadau 1997 a Rheoliadau 1986, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Offthalmig) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 ac sy'n gymwys i Loegr, gael effaith yng Nghymru. Mewn perthynas â Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1986 mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o "amount withdrawn" ac yn rhoi diffiniad o "disabled person's tax credit" yn lle'r diffiniad o "disability working allowance" a hefyd yn rhoi diffiniad o "working families' tax credit" yn lle'r diffiniad o "family credit". Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn diffinio'r personau sy'n gymwys i gael taliadau i dalu costau sbectol ac offer optegol arall a ddarparwyd iddynt, neu i gyfrannu at y costau hynny. Mae'r diwygiadau i'r rheoliad hwn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.Yn yr un modd mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 13 o Reoliadau 1986 sy'n diffinio pwy sy'n gymwys i gael profion golwg rhad ac am ddim. Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael profion golwg rhad ac am ddim neu daliadau at gostau sbectol ac offer optegol arall yn parhau tra bod credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl yn parhau i gael ei dalu. Notes: [1] 1997 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.53) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27. Estynwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4), Atodlen 1, Rhan I, paragraff 1 ac Atodlen 8, rhan I; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); ac (yngl n â Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Disodlwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan I paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) and (3).back[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38(1), (3), (4) a (6), 39, 78, 126(4) a 128(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 i Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/818; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/609.back [4] O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1989/395, 1995/558 and 1996/2320.back
ISBN 0 11 090014 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |