Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090011 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf Gwasnaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988[3]. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau mewnosodir y paragraff canlynol -
Darpariaeth Drosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer dileu ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu costau teithio a dynnir drwy fynd i ysbyty. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1999 ac sy'n ymestyn dros Loegr, gael effaith yng Nghymru. Mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o "amount withdrawn" ac yn rhoi diffiniad o "disabled person's tax credit" yn lle'r diffiniad o "disability working allowance" a hefyd yn rhoi diffiniad o "working families' tax credit" yn lle'r diffiniad o "family credit". Mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 4 o'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl. Maent yn diwygio hefyd y diffiniad o "voluntary payment" y cyfeirir ato yn y cofnod yngl n â "regulation 65" yn Nhabl A o Ran I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr drwy ychwanegu cyfeiriad at fenthyciad myfyriwr.Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael dilead o'r taliadau a sefydlwyd yn rhinwedd rheoliad 4(c), (d), (g) neu (h) o'r prif Reoliadau yn parhau tra bod yr hawl i gael credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl neu daliadau o'r budd-daliadau hynny yn parhau. Notes: [1] 1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990. Darpariaeth ar gyfer dehongli yw adran 128(1) a chyfeirir ati oherwydd yr ystyron a briodolir i'r geiriau "prescribed" a "regulations"; diwygiwyd adran 128(1) gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1988/551 fel y'i ddiwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417 a 1999/767.back [4] O.S. 1999/2507, sef rheoliadau sy'n gymwys i Loegr yn unig.back
ISBN 0 11 090011 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |