Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090006 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (b), (d), (2), (2A), (2B), (3), (5), a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999. Diddymiadau a darpariaethau trosiannol 2. - (1) Bydd i Ran I o Atodlen 1 effaith o ran y diddymiadau a grybwyllir yno. (2) Bydd i Ran II o Atodlen 1 effaith o ran y materion trosiannol a grybwyllir yno. Dehongli 3. - (1) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae cyfeiriad at sefydliad addysg bellach yn gyfeiriad at sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd -
(ii) yn y sector addysg bellach;
(c) mae cyfeiriad heb oleddfu at sefydliad yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad yn y sector addysg uwch; a
(2) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -
(b) cwrs ôl-raddedig (gan gynnwys cwrs gradd uwch); (c) cwrs gradd gyntaf; (d) cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch; (e) cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a ddarperir gan Sefydliad Edexcel, neu'r Ddiploma mewn Astudiaethau Rheoli; (f) cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg; (g) cwrs i baratoi ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 4 neu 5; (h) cwrs sy'n darparu addysg (boed er mwyn paratoi ar gyfer arholiad neu beidio) ar safon uwch na safon y cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi ar gyfer arholiadau safon uwch safon y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC a ddarperir gan y Sefydliad Edexcel;
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1982 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982[7]; (c) mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1989 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1989[8]; a (d) mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1993 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993.[9]
(4) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, gall cymeradwyaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn fod yn gymwys yn gyffredinol (yn ddarostyngedig i'r eithriadau, os oes rhai, a bennir ynddynt) neu mewn achos penodol yn unig. Ystyr "wedi'i gymeradwyo" yngl Staffio ysgolion a sefydliadau addysg bellach 4. - (1) Mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach cyflogir staff o athrawon sy'n addas ac y mae eu nifer yn ddigon i ddibenion sicrhau bod addysg briodol i oedrannau, galluoedd, doniau ac anghenion y disgyblion neu'r myfyrwyr yn cael ei darparu gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau'r athrawon a gyflogir y tu allan i'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach dan sylw. (2) Heb ragfarnu'r egwyddor gyffredinol paragraff (1) *mdash;
(b) bydd gan y staff o athrawon a gyflogir mewn sefydliad addysg bellach y cymwysterau priodol i roi hyfforddiant digonol yn y pynciau y darperir cyrsiau ynddynt.
(3) Mae'r gofyniad ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion yngl 5. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth -
(b) gan unrhyw gorff arall, fel athrawon mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach; neu (c) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc.
(2) At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogaeth yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.
(b) byddant yn pwyso a mesur y dystiolaeth a'r achos ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddynt, gan gynnwys tystiolaeth sydd wedi'i rhoi'n gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld; (c) cânt fynnu iddo ymddangos gerbron meddyg a chanddo'r cymwysterau priodol ac a benodwyd ganddynt i gael ei archwilio neu gânt drefnu bod hyn yn digwydd os yw'n gofyn amdano. Os nad yw'n ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da neu os yw'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth feddygol y mae'r meddyg yn gofyn amdani, er y byddai tystiolaeth feddygol bellach yn ddymunol, cânt ddod i gasgliad ar y mater ar sail y dystiolaeth a'r wybodaeth sydd ar gael iddynt gan gynnwys y casgliad nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer ei gyflogaeth.
(3) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) caiff y cyflogwyr, neu'r person ei hun, gyflwyno i'r meddyg penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad: a gall meddyg a chanddo gymhwyster priodol a benodir at y diben hwnnw gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn yr archwiliad. Cyflogaeth y mae Rhan IV yn gymwys iddi 8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9 bydd y rhan hon yn gymwys i gyflogi personau fel athrawon mewn ysgolion, onid ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i ddarparu -
(b) addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu (c) yr addysg ran-amser a'r addysg amser-llawn honno.
9.
At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogi yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogi a dehonglir cyfeiriadau at gyflogi neu at fod yn gyflogedig yn unol â hynny.
(b) nam ar eu golwg; neu (c) nam ar eu clyw a'u golwg,
er nad yw'n athro cymwysedig yn unol â rheoliad 11, 12, neu 13(1), fel y bo'r achos, at ddibenion cyflogaeth o'r fath os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni ei fod yn bwriadu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad o dan reoliad 11, 12 neu 13(1), fel y bo'r achos, ar yr amod, er hynny, nad yw'r cyfnod agregedig y mae wedi'i gyflogi ar ei gyfer, mewn un neu ragor o ysgolion, fel athro'r dosbarth o ddisgyblion a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), fel y bo'r achos, yn fwy na thair blynedd. Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S.1993/543) Diddymir y darpariaethau canlynol:
n â Chymru ym mhob achos.
Rheoliadau Addysg (Athrawon)(Diwygio) 1997 (O.S.1997/368)
n â Chymru ym mhob achos.
Rheoliadau Addysg (Athrawon)(Diwygio) (O.S. 1998/1584) Y cymwysterau presennol ar gyfer addysgu disgyblion â nam ar eu clyw 1. Ymdrinnir ag unrhyw berson a oedd yn union cyn 1 Medi 1999 yn meddu ar y canlynol -
(b) cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 15 o Reoliadau 1989; neu (c) cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 15(1) o Reoliadau 1982; neu (d) cymhwyster cymaradwy a gymeradwyir at ddibenion y rheoliad hwnnw; neu (e) cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 20(3) o Reoliadau 1959; neu (f) cymhwyster cyfatebol a gymeradwyir at ddibenion y rheoliad hwnnw,
fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion 11.
(b) cymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 16 o Reoliadau 1989; neu (c) cymhwyster a grybwyllir yn rheoliad 16(1) o Reoliadau 1982; neu (d) cymhwyster a gymeradwyir at ddiben y rheoliad hwnnw fel cymhwyster y gellir ei gymharu ag un a grybwyllir felly; neu (e) cymhwyster ar gyfer addysgu disgyblion dall a oedd, yn union cyn 8 Ebrill 1982, yn bodloni gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 15(2) o Reoliadau Disgyblion o Dan Anfantais ac Ysgolion Arbennig 1959[12],
fel person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion rheoliad 12.
(b) a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,
ei gyflogi fel athro mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad.
(b) penderfynu a oedd person, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athro trwyddedig, athro a hyfforddwyd dros y môr neu'n athro cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athro cymwysedig.
8.
Lle cyflawnwyd swyddogaeth a roddwyd gan y Rheoliadau hyn i'r Cynulliad cyn 1 Gorffennaf 1999 gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rheoliadau 1982, bydd Rheoliadau 1989 neu Reoliadau 1993, bydd unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflawni'r swyddogaeth honno gan y Cynulliad yn cynnwys, yngl Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin 1. - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig y caniatawyd ei gyflogi fel athro cynorthwyol mewn ysgol feithrin neu fel athro dosbarth meithrin gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael ei gyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989. (2) Caiff athro o'r fath barhau i gael ei gyflogi fel y'i cyflogwyd yn union cyn 1 Medi 1989. Myfyrwyr-athrawon 2. - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig dros 18 oed sydd naill ai-
(b) ar ôl cael ei dderbyn ar y cyfryw gwrs, wedi methu ei gwblhau'n foddhaol erbyn y dyddiad ar ddiwedd y cyfnod sy'n ofynnol fel arfer ar ei gyfer, ond yn ystod y flwyddyn sy'n dilyn y dyddiad hwnnw, yn parhau â'r cwrs gyda golwg ar ei gwblhau o fewn y flwyddyn honno.
(2) Gellir cyflogi athro o'r fath fel athro mewn ysgol (heblaw mewn uned cyfeirio disgyblion) fel na fydd, er hynny -
(b) yn ofynnol iddo gymryd cyfrifoldeb am ddosbarth nac addysgu pwnc nas dysgir hefyd gan athro cymwysedig yn yr ysgol.
Hyfforddwyr gyda chymwysterau neu brofiad arbennig
n â'i gymwysterau neu fel bo'r achos, ei brofiad; a(b) nad oes unrhyw athro cymwysedig addas, athro graddedig neu athro cofrestredig ar gael i'w benodi neu i roi'r hyfforddiant.
(2) Gellir cyflogi'r cyfryw athro mewn ysgol i roi'r hyfforddiant fel uchod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), am y cyfnod nad oes athro cymwysedig, athro graddedig neu athro cofrestredig addas ar gael i'w benodi neu i roi hyfforddiant.
(b) os oedd ei benodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.
Athrawon dros dro
(b) os caiff ei gyflogi mewn unrhyw swydd unigol mewn ysgol (naill ai drwy absenoldeb deiliad y swydd honno neu fel arall) am gyfnodau nad ydynt yn hwy na chyfanswm o bedwar mis.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei gyflogi gyntaf fel athro mewn ysgol ddirwyn i ben. 5. - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon. (2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio uned cyfeirio disgyblion. 6. - (1) Yn dilyn argymhelliad y corff, gall y Cynulliad rhoi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw. (2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion a benderfynnir gan y Cynulliad a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6). (3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad -
(b) yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddir gan sefydliad addysgol yng Nghymru neu Loegr, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb i hynny a roddir gan sefydliad addysgol yn rhywle arall; (c) wedi cyrraedd y safon sy'n ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; (d) os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei awdurdodiad y bwriedir iddo addysgu disgyblion o dan 11 oed, wedi cyrraedd mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon sy'n ofynnol i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; a (e)
(ii) y bydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(4) Bydd yn cynnwys manylion am yr hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad ac am hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant.
(b) os yw'r athro graddedig yn peidio â chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad ac eithrio -
(ii) pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.
10.
Bydd y corff argymell yn peri i'r athro graddedig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 6(4). 12. - (1) Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond sydd wedi cael awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon. (2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion. 13. - (1) Yn unol ag argymhelliad y corff argymell gall y Cynulliad roi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw. (2) Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion hynny y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6). (3) Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad -
(b)
(ii) y bydd wedi cyrraedd 24 oed erbyn y dyddiad pan gynigir iddo gychwyn ei waith fel athro cofrestredig a'i fod wedi cwblhau'n llwyddiannus -
(bb) addysg gymaradwy naill ai'n llawn-amser neu'n rhan-amser boed yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall;
(c) wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;
(4) Bydd yn cynnwys manylion o'r hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad a hyd cyfnod yr hyfforddiant arfaethedig.
(b) os yw'r athro graddedig yn peidio a chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad gan eithrio -
(ii) pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.
17.
Bydd y corff argymell yn peri i'r athro cofrestredig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 13(4). 1. - (1) Bydd person yn athro cymwysedig i ddiben rheoliad 10 (ond yn ddarostyngedig i reoliadau 11 i 13) -
(b) os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad ei fod yn athro cymwysedig, gan fod y Cynulliad wedi'i fodloni ar 1 Medi 1999 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 8, fod y datganiad a gyflwynwyd gan y corff argymell neu Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey (fel y bo'r achos) yn gywir; neu (c) os yw'n athro cymwysedig o dan reoliadau sydd o bryd i'w gilydd mewn grym o dan adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg yngl n â Lloegr,
ac yn achos person sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (b) bydd y person, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), yn gymwysedig o'r dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.
(b) wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru.
(2) At ddibenion y paragraff hwn -
(b) ystyr "sefydliad estron" yw unrhyw sefydliad heblaw sefydliad yn y Deyrnas Unedig; ac (c) ystyr "sefydliad achrededig" yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel darparydd cyrsiau sy'n bodloni'r cyfryw ddarpariaethau yngl n â chwricwla a meini prawf eraill y gellir eu pennu o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad.
3.
Mae'r person wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(b) y datganiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (2)
(2) Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y person -
(ii) wedi cwblhau ddim llai na thri mis o wasanaeth fel athro graddedig neu dim llai na blwyddyn o wasanaeth fel athro cofrestredig (fel y bo'r achos) ac wedi gwneud y fath gynnydd yn ystod ei gyfnod o wasanaeth fel athro graddedig neu athro cofrestredig (fel y bo'r achos) nad oedd angen iddo ym marn y corff argymell, yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw, gwblhau'r gwasanaeth hwnnw am gyfnod yr awdurdodiad cyn cael ei asesu fel y cyfeirir ato ym mharagraff (b);
(b) wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac
(b) ystyr "safonau penodedig" yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig. (c) mae i "sefydliad yn y Deyrnas Unedig" yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(a).
8.
Mae Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno i'r Cynulliad argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person ac-
(b) datganiad -
(ii) ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded wedi cyrraedd 24 oed, a (iii) ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded nad oedd wedi'i gyflogi am lai na dwy flynedd fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu fel hyfforddwr neu Swyddog Addysg yn y Lluoedd Arfog y Goron neu fel hyfforddwr o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 3 o Atodlen 2 ac nad oedd wedi'i ddiswyddo am resymau heblaw colli gwaith; neu
(c) datganiad -
(ii) cyn dyddiad cychwyn y drwydded ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus naill ai -
(bb) cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn ysgolion o'r fath (p'un ai yn yr un sefydliad neu beidio), a
(iii) na chafodd ei gyflogi am lai na blwyddyn fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysgol arall yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall ac na chafodd ei ddiswyddo am resymau heblaw fod ei swydd wedi mynd yn ddiangen.
9.
- (1) Mae'r person -
(b) wedi cwblhau rhaglen hyfforddi yn foddhaol; (c) wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; (d) yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb iddi ac a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall; (e) wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; (f) wedi llwyddo mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon ofynnol i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei hyfforddiant wedi addysgu disgyblion iau nag 11 oed; a (g) wedi cyrraedd odran 24 oed.
(2) Yn y paragraff hwn -
(b) ystyr "safonau penodedig" yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig; (c) ystyr "rhaglen hyfforddi" yw rhaglen hyfforddi nad yw'n llai na thri mis mewn ysgol, heblaw uned cyfeirio disgyblion, neu mewn ysgol annibynnol yn dilyn cais a wnaed gan y corff sy'n trefnu'r hyfforddiant i'r Cynulliad ac a fydd yn cynnwys y manylion y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt, ac ar yr amod bod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r rhaglen fel rhaglen sy'n arwain at statws athro cymwysedig cyn i'r person gychwyn arni; (d) mae i "sefydliad yn y Deyrnas Unedig" yr un ystyr ag sydd ym mharagraff 2(2)(a).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) At ei gilydd mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu'r darpariaethau presennol yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993. Maent hefyd yn cyflwyno darpariaethau newydd sy'n tynhau'r moddion archwilio a gwirio sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon Mae'r Rheoliadau yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sy'n ymwneud â chyflogaeth a chymwysterau athrawon mewn ysgolion yn ogystal â newidiadau sy'n deillio o'r fframwaith newydd i ysgolion a amlinellir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Byddant yn: Nid yw'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau sy'n ymwneud â gwahardd a gynhwysir yn Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993. Notes: [1] 1988 p.40; diwygiwyd adran 218 gan baragraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), adran 290 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adrannau 290 a 291 o Ddeddf Addysg 1993 (p.35), adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 (p.30), paragraff 76 o Atodlen 37 ac Atodlen 38 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Adran 49 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30). Mae adran 218 wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adrannau 11, 13 ac 18 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1672).back [3] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid dehongli, mewn perthynas â Chymru, gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a'r Atodlenni iddi fel cyfeiriad, neu fel petai'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.back [5] O.S. 1959/364; O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1975/1054 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [6] O.S. 1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [7] O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back [11] .S. 1997/3001 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [12] O.S.1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [14] O.S. 1993/543; amnewidiwyd Atodlen 3 newydd gan O.S.1997/2679.back [15] OJ Rhif L19, 24.1.89, t16.back
ISBN 0 11 090006 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |