Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090005 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 50 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a diddymu 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999. (2) Diddymir Rheoliadau (Addysgedau Hyfforddi Athrawon) 1994[3] a Rheoliadau (Addysgedau ar gyfer Hyfforddiant Athrawon) (Diwygio) 1995[4] yn eu hymwneud â Chymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
n â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[5], yn gymwysedig i gael ei gyflogi fel athro mewn ysgol y mae'r adran honno yn gymwys iddi;
n â chwricwla a'r meini prawf eraill y gall y Cynulliad o bryd i'w gilydd eu pennu.
Gwneud taliadau cymhelliant
(b) sydd wedi dod yn athro cymwysedig/athrawes gymwysedig yng Nghymru neu Loegr; ac (c) sydd wedi derbyn swydd addysgu o dan gontract am o leiaf un tymor ysgol i addysgu mathemateg a/neu wyddoniaeth mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru.
(2) Ni wneir unrhyw daliad o dan baragraff (1) i berson sydd wedi derbyn swydd mewn ysgol gynradd oni fydd gan y person hwnnw'r cyfrifoldeb arweiniol dros y cwricwlwm mathemateg a/neu wyddoniaeth yn yr ysgol. (Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cymelliannau newydd ar waith i hybu mwy o bobl i hyfforddi ar gyfer addysgu mathemateg a/neu wyddoniaeth. Mae'r Rheoliadau'n caniatáu bod hyd at £2,500 yn daladwy yn ystod cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, mewn sefydliad achrededig yng Nghymru, mewn mathemateg, bioleg, cemeg neu ffiseg uwchradd. Bydd ail daliad o £2,500 yn daladwy i bobl sydd wedi cael y £2,500 gyntaf ac wedi dechrau swydd addysgu naill ai mathemateg, bioleg, cemeg neu ffiseg o fewn 10 mis ar ôl cwblhau eu cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu i'r rhai sydd wedi'u hyfforddi yn Lloegr, ac wedi cael y taliad cyntaf drwy'r cynllun cymhelliant cyfochrog yn Lloegr, ddechrau addysgu yng Nghymru a bod yn gymwys i gael yr ail £2,500. Mae'r Rheoliadau'n diddymu Rheoliadau addysgedau athrawon blaenorol nad oes eu hangen bellach. Notes: [1] 1986 p.61back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back [6] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid, mewn perthynas â Chymru, ddehongli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau perthnasol o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 fel cyfeiriad, neu gyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad - gweler adran 43 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.back [7] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999 O.S. 1999/496 yw'r Rheoliadau cyfredol.back
ISBN 0 11 090005 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |