Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2815 (C.70) (Cy.16)

      Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999


      © Crown Copyright 1999

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999, ISBN 0 11 090004 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


1999 Rhif 2815 (C.70) (Cy.16)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999

  Gwnaethpwyd 28 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 27(3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.

Y darpariaethau a ddaw i rym ar 1 Hydref 1999
    
2. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999  - 

         adran 1(1)(a), (b) a (g), (3) a (5)(a),

         adran 2(1), (2), (3) a (5),

         adran 3(2), (3) a (4),

         adran 4(1), (2), (3) a (4),

         adran 5(2), (4), (5), (6) a (7),

         adran 6,

         adran 8(2), (3), (4), (5), (6) a (7),

         adran 10(4),

         adran 12(1) a (4),

         adran 19(1), (2) a (4),

         adran 20,

         adran 22,

         adran 23,

         adran 25(1), (2)(a), (d), (e), (f), (g) a (h) a (3),

         adran 26.

Y darpariaethau a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2000
    
3. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis Thomas
Presiding Officer of the Assembly

28 Medi 1999



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ("y Ddeddf") i rym mewn perthynas â Chymru. Mae'r darpariaethau hyn yn gosod gofynion ar awdurdodau leol ac awdurdodau eraill ynglyn â darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae adran 27(3) o'r Ddeddf yn rhoi per i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod â'r darpariaethau hynny i rym mewn perthynas â Chymru cyn yr amser a bennir gan adran 27(1).

Daw Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999  - 

         adran 1(1)(a), (b) a (g), (3) a (5)(a) (awdurdodau gwerth gorau: diffiniad).

         adran 2(1), (2), (3) a (5) (per i estyn neu ddatgymhwyso).

         adran 3(2), (3) a (4) (y ddyletswydd gyffredinol: ymgynghori, diffiniad o "cynrychiolwyr" a chanllawiau).

         adran 4(1), (2), (3) a (4) (dangosyddion perfformiad a safonau).

         adran 5(2), (4), (5), (6) a (7) (adolygiadau gwerth gorau: gorchmynion a chanllawiau).

         adran 6 (cynlluniau perfformiad gwerth gorau).

         adran 8(2), (3), (4), (5), (6) a (7) (cod ymarfer a ffioedd).

         adran 10(4) (arolygiadau: canllawiau).

         adran 12(1) a (4) (ffioedd: rhagnodi).

         adran 19(1), (2) a (4) (contractau: eithrio ystyriaethau anfasnachol).

         adran 20 (cyhoeddi gwybodaeth).

         adran 22 (Y Comisiwn Archwilio).

         adran 23 (cyfrifon).

         adran 25(1), (2)(a), (d), (e), (f), (g) a (h) a (3) (cyd-drefnu archwiliadau ac ati).

         adran 26 (canllawiau: cyffredinol).

Daw Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000  - 

         adran 3(1) (y ddyletswydd gyffredinol).

         adran 4(5) (dyletswydd awdurdodau gwerth gorau i gyrraedd safonau perfformiad).

         adran 5(1) a (3) (rhwymedigaeth awdurdodau gwerth gorau i ymgymryd ag adolygiadau).

         adran 7 (archwilio cynlluniau perfformiad gwerth gorau).

         adran 8(1) (rhwymedigaeth archwilydd i roi sylw i unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan adran 8).

         adran 9 (ymateb i archwiliad).

         adran 10(1), (2) a (3) (arolygiadau gwerth gorau gan y Comisiwn Archwilio).

         adran 11 (pwerau a dyletswyddau arolygwyr).

         adran 12(2) a (3) (ffioedd sy'n daladwy am arolygiadau gwerth gorau).

         adran 13 (adroddiadau arolygu).

         adran 15 (pwerau gorfodi).


Notes:

[1] 1999 p. 27back



English version



ISBN 0 11 090004 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 1999
Prepared 30 October 2001