Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090002 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 54(1), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 30 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, hyd a lled a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999. (2) Dim ond i ysgolion yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys. (3) Yn y Rheoliadau hyn -
Penodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cadw yn eu lle ac yn egluro'r trefniadau presennol a wnaed o dan y ddeddfwriaeth flaenorol a gaiff ei disodli gan y darpariaethau newydd hyn o 1 Medi ymlaen. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer penodi a diswyddo staff a gyflogir i weithio'n unig mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion arbennig cymunedol (ac os cyflogir y staff gan yr AALl) ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion arbennig sefydledig. Daw darpariaethau'r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion sy'n ymwneud â staff ysgolion i rym ar 1 Medi 1999. Pe na bai Rheoliadau sy'n ymwneud â staff prydau bwyd ysgolion yn bod, byddai'r corff llywodraethu yn gyfrifol am eu penodi, eu disgyblu, eu gwahardd dros dro, a'u diswyddo, ni waeth a fyddent yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol ai peidio, a byddai anghysondebau yn codi o hyn. Dyma effaith ymarferol y Rheoliadau. Os na ddirprwyir corff llywodraethu i ddarparu cinio ysgol, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol. Os dirprwyir y corff llywodraethu ond yr yr awdurdod addysg lleol sy'n darparu'r cinio, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol ond caiff y corff llywodraethu fynnu bod unrhyw berson yn peidio â gweithio yn yr ysgol. Os bydd y corff llywodraethu yn darparu'r cinio ysgol ei hun, caiff fynnu bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi; yn gyfrifol am ddisgyblu a chaiff fynnu bod yr awdurdod yn cymryd camau disgyblu y tu hwnt i bwerau'r corff llywodraethu; a mynnu diswyddo. Notes: [1] 1998 p.31.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 116 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gwnaethpwyd dau Orchymyn o dan yr adran hon - O.S. 1999/610 ac O.S. 1996/1779.back [4] Gweler adran 49(7) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 090002 2
|
![]() | ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 21 October 1999 |