Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999, ISBN 0 11 090008 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraff 1(9) o Atodlen 10 iddi, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgol newydd yng Nghymru sydd, yn y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, i fod yn ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "blwyddyn gychwynnol" mewn perthynas ag ysgol newydd yw'r flwyddyn ysgol pan dderbynnir disgyblion (neu y bwriedir y dylid eu derbyn) i'r ysgol; ystyr "corff llywodraethu dros dro" yw -
(ii) corff llywodraethu trosiannol sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13(5) o O.S. 1999/362, neu (fel y bo'r achos) (iii) corff llywodraethu dros dro sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13 o O.S. 1999/704;
ystyr "Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru[3];
mae i "ysgol a gynhelir" yr ystyr a roddir i "maintained school" gan adran 84(6) o Ddeddf 1998;
(2) Ni fydd Rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys lle bo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd a sefydlwyd fel rhan o gynigion a oedd yn cynnwys terfynu ysgol arall a gynhaliwyd gan awdurdod addysg lleol yn penderfynu y bydd y trefniadau derbyn cychwynnol yr un fath â rhai'r ysgol honno.
(b) y corff llywodraethu dros dro lle bo'r awdurdod, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.
(2) Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan -
(b) yr hyrwyddwyr -
(ii) lle bo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n ddoeth i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.
Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn
(b) yr awdurdodau derbyn ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir yn yr ardal berthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) "yr ardal berthnasol" fydd -
(ii) y mae ei radiws yn 4.83 cilometr (3 milltir);
(b) yn achos ysgol a fydd yn derbyn disgyblion gyntaf yn y flwyddyn ysgol sy'n cychwyn yn 2001 neu unrhyw flwyddyn ysgol ar ôl hynny, yr ardal berthnasol neu'r ardaloedd perthnasol a bennir gan yr awdurdod addysg lleol yn unol ag O.S. 1999/124.
(4) Dim ond os yw ei phrif fynedfa o fewn yr ardal honno y dylid edrych ar ysgol fel un sydd o fewn yr ardal berthnasol a ragnodir gan baragraff (3)(a).
(b) yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff
(2) yngl
(b) yn credu ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn gychwynnol y dylid amrywio'r trefniadau yn wyneb newid sylweddol mewn amgylchiadau a ddigwyddodd ers iddynt gael eu penderfynu felly,
bydd yr awdurdod yn cyfeirio'r amrywiadau arfaethedig at y Cynulliad a bydd (ym mhob achos) yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan is-adran (2) yngl
(b) bydd yr awdurdod derbyn yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff (2) o'r amrywiadau y bydd y trefniadau yn cael effaith odanynt;
ac eithrio na fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud penderfyniad o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
(b) ar ben hynny yn ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro cyn gwneud unrhyw gyfeiriad o dan baragraff (7).
Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad
(b) bod corff yr ymgynghorwyd ag ef gan yr awdurdod derbyn o dan reoliad 4(2) yn dymuno codi gwrthwynebiad yngl n â'r trefniadau hynny, ac(c) nad yw'r gwrthwynebiad yn dod o dan unrhyw ddisgrifiad o wrthwynebiadau a ragnodir gan reoliad 2(2) o O.S. 1999/125,
caiff y corff hwnnw gyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad.
(b) os bydd yr awdurdod derbyn yn gwneud hynny, bydd rheoliad 5(1) yn gymwys i unrhyw wrthwynebiad yngl n â'r trefniadau arbennig -
(ii) sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw,
fel y bo'n gymwys i unrhyw wrthwynebiad arall sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw.
(b) os bydd y corff llywodraethu dros dro yn gwneud hynny-
(ii) ni fyddant yn penderfynu mabwysiadu'r trefniadau hynny yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer yr ysgol oni fydd (ac i'r graddau y bydd) y Cynulliad yn penderfynu y gallant wneud hynny o dan y rheoliad hwn, a (iii) caiff unrhyw un o'r cyrff yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2) godi gwrthwynebiad yn y dull a ragnodir gan O.S. 1999/125 i'r Cynulliad yngl n â'r trefniadau drafft.
(4) Ar ôl cael cyfeiriad o'r fath, bydd y Cynulliad yn penderfynu (gan roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd ganddo o dan baragraff (3)) a gaiff yr awdurdod derbyn fabwysiadu'r trefniadau drafft, heb eu haddasu neu beidio, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
(b) disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.
(7) Bydd penderfyniad y Cynulliad ar unrhyw gyfeiriad o'r fath yngl
(b) lle cytunodd yr awdurdod addysg lleol ar unrhyw drefniadau o'r fath, pan fydd yr awdurdod yn tynnu eu cytundeb ar y trefniadau hynny yn ôl neu unrhyw ran ohonynt p'un ai gyda golwg ar geisio gwneud unrhyw addasiad iddynt neu fel arall.
Cymhwyso'r deddfiadau
(b) sy'n cael ei thrin (neu a gaiff ei thrin) fel ysgol a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998 yn rhinwedd -
(ii) rheoliad 12 o O.S. 1999/704; ac
(c) sy'n derbyn disgyblion am y tro cyntaf ym mlwyddyn ysgol 1999/2000.
(2) Pan fydd y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi wedi'u gwneud cyn 1 Medi 1999 yn unol ag adran 422 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â blwyddyn ysgol 1999/2000, bydd y trefniadau hynny yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion derbyn disgyblion i'r ysgol yn ystod y flwyddyn honno.
(b) apêl yn erbyn penderfyniad fel y'i crybwyllir yn adran 423(1) neu
(2) o 423A(2) o Ddeddf 1996 yngl
(ii) nad oedd yr apêl wedi'i phenderfynu gan bwyllgor apêl a bennwyd yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 33 i Ddeddf 1996.
(4) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3)(a) at gais am dderbyn plentyn i ysgol yn cynnwys cyfeiriad -
(b) at gais fel y'i crybwyllir yn adran 438(4) neu 440(2) o'r Ddeddf honno.
(5) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys er gwaethaf -
(b) darpariaethau rheoliadau 3 a 4 uchod.
1. Bydd darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef -
paragraff 3(4) o atodlen 27 i Ddeddf 1996[11] adrannau 1, 84, 86 i 87, 92, 93(1) a (2), 94, 95 i 99, a 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998, paragraff 2 o Atodlen 23 (cyhyd ag y byddai'n peidio â bod yn gymwys fel arall i ysgol newydd) ac Atodlenni 24 a 25 i Ddeddf 1998, ac unrhyw Reoliadau a wnaed o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (d) uchod (cyhyd ag y bônt yn ymwneud â Chymru),
yn gymwys yngl
ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir,
fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Adran 422 o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer penderfynu'r trefniadau derbyn i ysgolion newydd. Diddymir y gweithdrefnau hyn o 1af Medi ymlaen gan weithdrefnau derbyn sy'n dod i rym o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Cyn dod yn weithredol, bydd angen ar ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol newydd fod ag awdurdod derbyn a ddiffinnir gan Ddeddf 1998. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu yngl n â phenderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgolion newydd, a cheisiadau am gael derbyniad iddynt.Mae Rheoliadau 1 a 2 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli'r Rheoliadau. Mae Rheoliad 3 yn pennu pwy fydd yr awdurdod derbyn sy'n gyfrifol am benderfynu'r trefniadau i dderbyn disgyblion i'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf. Os yw'r ysgol i fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir, yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu dros dro lle bo'r AALl wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn iddynt fydd yr awdurdod derbyn. Lle bydd yr ysgol newydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yr awdurdod derbyn fydd y corff llywodraethu dros dro (neu'r hyrwyddwyr). Mae Rheoliad 4 yn nodi'r weithdrefn i awdurdod derbyn ymgynghori â'r awdurdodau addysg lleol a'r awdurdodau derbyn eraill yn yr ardal berthnasol cyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer yr ysgol newydd ac mae'n rhagnodi amserlen i'r ymgynghori hwnnw. Mae yna ddarpariaeth i amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol yn wyneb newid sylweddol mewn amgylchiadau ar ôl iddynt gael eu penderfynu ar yr amod bod yr amrywiad arfaethedig yn cael ei gyfeirio at y Cynulliad. Ar ôl i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu, mae Rheoliad 5 yn darparu i'r awdurdodau derbyn eraill gyfeirio gwrthwynebiadau at y Cynulliad. Os nad yw'r cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol, y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan Ddeddf 1998, wedi'u cymeradwyo adeg cyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad, nid yw'n ofynnol i'r Cynulliad benderfynu ar y gwrthwynebiad nes bod y cynigion wedi'u cymeradwyo. Mae Rheoliad 6 yn gymwys os bydd gan ysgol newydd gymeriad crefyddol. Mae'n darparu ar gyfer cynnwys trefniadau arbennig, sy'n adlewyrchu darpariaethau adran 91 o Ddeddf 1998, mewn trefniadau derbyn cychwynnol i ddiogelu cymeriad ysgol. Mae Rheoliad 7 a'r Atodlen yn caniatáu i ddarpariaethau penodol y Deddfau Addysg fod yn gymwys, gydag addasiadau, i'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion newydd at ddibenion penderfynu (i) y trefniadau derbyn cychwynnol, a (ii) y trefniadau unigol ar gyfer derbyniad i'r ysgol. Mae Rheoliad 8 yn cynnwys darpariaethau trosiannol yngl n â derbyn disgyblion i ysgolion a sefydlwyd yn unol â chynigion a gyhoeddwyd o dan Ran II o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n derbyn disgyblion yn y flwyddyn ysgol 1999/2000 am y tro cyntaf.Notes: [1] 1998 p.31. Gweler adran142(1) ar gyfer ystyr "rheoliadau".back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid, mewn perthynas â Chymru, ddehongli cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a'r Atodleni iddi fel cyfeiriad, neu gyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.back [9] Diwygiwyd adran 422(6) o Ddeddf 1996 gan baragraff 32 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back [10] Diwygiwyd adran 324(5)(b), a mewnosodwyd adran 325(5A), gan baragraff 77 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Diwygiwyd adran 439 gan baragraff 115 o'r Atodlen honno.back [11] Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 27 gan baragraff 186 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
ISBN 0 11 090008 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |