Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 , ISBN 0 11 090000 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 35(2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] a pharagraffau 2, 3 a 5 o Atodlen 8 a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 i'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn:
n â hi neu, yn ôl yr achos, y mae'r newid hwnnw'n digwydd ("the governing body");
(2) Mae gan yr ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir iddynt gan, neu (fel y bo'r achos) rhaid eu dehongli'n unol â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw -
Y cyfnod a ragnodir at ddiben adran 35(2) o'r Ddeddf 3. At ddibenion adran 35(2) o'r Ddeddf (sy'n darparu, ac eithrio mewn perthynas â newid categori o ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ysgol wirfoddol a reolir, newid er mwyn yr hwn y mae'n ofynnol cyhoeddi cynigion yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, nid yw'r Atodlen honno yn gymwys ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag y gellir ei ragnodi) y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000. Cymhwyso rheoliadau 5 i 9 4. Bydd Rheoliadau 5 i 9 yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, yn ystod y cyfnod a ragnodir yn rheoliad 3, i ysgol wirfoddol a gynorthwyir ddod yn ysgol wirfoddol a reolir ac yngl n â gweithredu'r cynigion hynny.Cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf ac Atodlen 6 iddi 5. - (1) Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith i gymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, yngl n â chynigion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 4.(2) Nodir darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf a gymhwysir felly, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u haddaswyd; a chyda chyfeiriadau at y Cynulliad (y breiniwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ynddo bellach) yn cymryd lle'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweithredu'r Cynigion 6. Ar y dyddiad gweithredu bydd yr ysgol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir. Trosglwyddo staff 7. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n gyflogedig gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu. (2) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu. (3) Bydd person a benodir gan y corff llywodraethu cyn y dyddiad gweithredu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu neu ddyddiad ar ôl hynny yn cael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel petai wedi ei gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith yn yr ysgol y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud ar y dyddiad hwnnw neu wedyn yn ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu. (4) Bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhyngddo ef a'r awdurdod addysg lleol. (5) Heb ragfarn i baragraff (4) -
(b) bernir y bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef yngl n â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig o'r diwrnod hwnnw ymlaen wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.
(6) Mae paragraffau (4) a (5) heb ragfarn i unrhyw hawl gan weithiwr cyflogedig i derfynu ei gontract os gwneir newid sylweddol sy'n anfanteisiol iddo i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi oherwydd y newid cyflogwr yn unig y mae'r rheoliad hwn yn ei achosi.
(b) bod y corff llywodraethu'n cael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn llywodraethu newydd a Rhan II o'r prif reoliadau llywodraethu ysgol[6];
(2) Bydd yr offeryn llywodraethu yn cael ei wneud ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddiadau ynddi. 1. Bydd is-adrannau adran 28 o'r Ddeddf, a'r paragraffau yn Rhan II o Atodlen 6 iddi, y cyfeirir atynt yn ngholofn 1 o Dablau 1 i 3 isod yn cael effaith mewn perthynas â'r cynigion a grybwyllir yn rheoliad 4 gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen hon mewn perthynas â'r darpariaethau hynny. 2. Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y geiriau yn ngholofn 3 o'r tabl hwnnw yn lle'r geiriau y cyfeirir atynt yn ngholofn 2 o'r tabl hwnnw. Tabl/Table 1
3. Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 isod yn cael effaith fel petai'r geiriau neu'r ddarpariaeth y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw wedi'u hepgor. Tabl/Table 2
4. Bydd darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 o Dabl 3 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y geiriau y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw yn lle'r geiriau yn y ddarpariaeth honno. Tabl/Table 3
(3) Proposals under paragraph 3 of Schedule 8 shall -
(ii) the date on which it is proposed that the change of category should take place, (iii) a statement explaining the effect of paragraph 7 of Schedule 6 including the date by which objections should be sent to the National Assembly for Wales, (iv) a statement that it is proposed to change the category of the school from voluntary aided to voluntary controlled, (v) a statement that after the change of category has taken place, the local education authority will be the admission authority for the school; and
(b) shall be published -
(ii) in at least one newspaper circulating in the area served by the school, and (iii) by being posted at or near the main entrance to the school or, if there is more than one main entrance, all of them.
(5) Before publishing any proposals under paragraph 3 of Schedule 8, the governing body shall consult such persons as appear to them to be appropriate; and in discharging their duty under this subsection the governing body shall have regard to any guidance given from time to time by the National Assembly for Wales.
(b) the information specified in subsection (7A),
to the National Assembly for Wales.
(b) evidence of consultation before the proposals were published including -
(ii) the views and responses from the persons consulted;
(c) a map showing the location of the school and all other community, voluntary and foundation schools within a radius of 3.218688 kilometres (2 miles), where the school is a primary school or 4.828032 kilometres (3 miles) where the school is a secondary school;
(ii) the number of year groups, (iii) the capacity of the school, and (iv) the number of pupils at the school;
and a forecast of the matters specified in sub-paragraphs (ii) to (iv) for each of the subsequent five years;
(ii) whether the school occupies a single or split site, (iii) how accessible the accommodation is, (iv) details of the general and specialist accommodation (both teaching and non-teaching), and (v) (where relevant) details of accommodation for nursery education;
(g) a breakdown of any costs involved in the change of category;
(11) In this part -
6. This Part of this Schedule applies to proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 which relate to a school in Wales. 7. - (1) Any person may make objections to any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8. (3) Any objections under this paragraph shall be sent to the National Assembly for Wales -
(b) within one month after the date of publication of the proposals, where the school is one to which section 15 applies.
8.
- (1) Proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 require approval under this paragraph.
(b) approve them without modification, or (c) approve them with such modifications as it thinks desirable after consulting the local education authority and the governing body.
(3) Any approval given under this paragraph may be expressed to take effect only if a scheme relating to any charity connected with the school is made by a date specified in the approval.
(b) where any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub-paragraph (3) of that paragraph, may specify a later date by which the scheme in question must be made.
1. Enw'r ysgol yw 2. Mae'r ysgol yn ysgol wirfoddol a reolir. 3. Enw'r corff llywodraethu yw "Corff llywodraethu " (mewnosoder enw'r ysgol fel ym mharagraff 1 uchod). 4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd
(b) x o lywodraethwyr yr AALl; (c) x o athrawon-lywodraethwyr;
(d) un llywodraethwr staff;) 5. Cyfanswm y llywodraethwyr (ac eithrio unrhyw bryd y mae pennaeth yr ysgol wedi rhoi hysbysiad fel nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, pan fydd cyfanswm y llywodraethwyr yn ).
6.
Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi i'r is-awdurdod neu (fel y bo'r achos) i un neu ragor o'r is-awdurdodau mewn perthynas â'r ysgol.)
7.
Bydd x (l)lywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/ llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei/eu benodi/penodi i'r noddwr, neu o blith noddwyr yr ysgol.)
8.
Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi i'r Fforwm Weithredu Addysg ar gyfer y parth gweithredu addysg y mae'r ysgol yn ysgol sy'n cyfranogi.
enw'r swydd
[neu a ar y cyd] hawl i benodi llywodraethwr sefydledig i weithredu yn lle'r llywodraethwr sefydledig ex officio y mae ei swydd llywodraethwr yn deillio o'r swydd a enwir yn (a) uchod, os digwydd bod y llywodraethwr sefydledig ex officio hwnnw'n methu gweithredu fel llywodraethwr sefydledig, neu'n anfodlon gwneud hynny, neu nad oes deiliad yn y swydd drwy rinwedd yr hon y mae swydd llywodraethwr yn bodoli.
11.
Ailadrodder 10(a) a (b) yn ôl yr angen lle bo mwy nag un swydd llywodraethwr sefydledig ex officio.) ar (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O 1 Medi 1999 ymlaen, rhennir ysgolion a gynhelir i'r categorïau canlynol: cymunedol; sefydledig; gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddol a gynorthwyir a gwirfoddol a reolir); arbennig cymunedol; ac arbennig sefydledig. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi moratoriwm o flwyddyn o 1 Medi 1999 ymlaen pan na fydd ysgolion yng Nghymru yn gallu cyhoeddi cynigion statudol i newid eu categori. Diben hynny yw sicrhau cyfnod "ymgynefino". Mae'r Rheoliadau yn caniatáu un eithriad: newid categori o wirfoddol a gynorthwyir i wirfoddol a reolir lle nad yw cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ariannol. Maent yn pennu'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn achosion o'r fath ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff a materion eraill. Nodir esboniad manylach o ddarpariaethau'r Rheoliadau isod. Mae Rheoliad 3 yn darparu i'r moratoriwm y cyfeirir ato uchod fodoli am gyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000. Mae Rheoliad 4 yn darparu i ddarpariaethau Rheoliadau 5-9 fod yn gymwys yn ystod cyfnod y moratoriwm mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf a gweithredu'r cynigion hynny. Mae Rheoliad 5 yn cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, gydag addasiadau, mewn perthynas â chynigion i ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ac mewn perthynas â gweithredu'r cynigion hynny. Nodir y darpariaethau a gymhwysir, a'r addasiadau y maent yn ddarostyngedig iddynt wrth eu cymhwyso, yn Atodlen 1. Er mwyn cynorthwyo'r darllenydd, nodir y darpariaethau hynny (fel a gymhwysir gydag addasiadau) yn Atodlen 2. Mae Rheoliad 6 yn darparu y bydd yr ysgol ar y dyddiad gweithredu (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1) fel "y dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd") yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir.Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff i gyflogaeth yr awdurdod addysg lleol. Mae Rheoliad 8 ac Atodlen 3 yn darparu i'r corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol (yn unol â'r gofynion deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwnnw), ac i'r corff llywodraethu gael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn (a'r gofynion hynny). Rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei lunio ar y ffurf neu yn ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddyd yn yr Atodlen honno. Mae Rheoliad 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol. Notes: [1] 1998 p.31back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau y gwnaed y rheoliadau hyn odanynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau y gwnaed y rheoliadau hyn odanynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [5] Nid yw adrannau 10-13 o'r Ddeddf yn gymwys i Gymru oni fydd Gorchymyn a wneir gan y Cynulliad yn darparu fel arall - gweler adran 10(8). Adeg gwneud y Rheoliadau hyn nid oedd unrhyw Orchymyn o'r fath wedi'i wneud.back
[6]
Mae Rhan II o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion)(Cymru) 1999 yn darparu yngl
ISBN 0 11 090000 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 28 September 1999 |