Mae’r wefan hon yn cael ei rheoli gan Lyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO) ar ran Argraffydd y Frenhines. Mae’r wefan yn cynnwys testun llawn yr holl Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nodiadau Esboniadol, Offerynnau Statudol sydd wedi’u gwneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyn hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y nod yw cyhoeddi’r dogfennau hyn ar y Rhyngrwyd yr un pryd ag y cân nhw eu cyhoeddi mewn print neu o leiaf ymhen 24 awr wedyn. Er hynny, gall unrhyw ddogfen sy’n arbennig o astrus o ran ei maint neu ei theipograffeg gymryd mwy o amser na hyn i’w pharatoi.
Mae dolenni wedi’u darparu hefyd i gysylltu â thestun llawn holl Ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig a holl Offerynnau Statudol y Deyrnas Unedig sy’n gymwys i Gymru yn unig neu yn bennaf ac sydd wedi’u cyhoeddi o’r blaen ar wefan HMSO ac sydd ar gael erbyn hyn ar wefan Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
Mae dolenni penodol wedi’u darparu hefyd i gysylltu â thestun llawn Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006 a’r ddeddfwriaeth ddirprwyedig berthynol a sefydlodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru.