(4) Yn is-adran (3) yn lle “The” rhodder “In relation to a relevant school in England, the”.

(5) Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A) In relation to a relevant school in Wales, the standard of behaviour which is to be regarded as acceptable must be determined by the head teacher, so far as it is not determined by—

(a) the governing body, or

(b) the Welsh Ministers.

(6) Yn is-adran (5), ar ôl “head teacher” mewnosoder “of a relevant school in England”.

(7) Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) The measures which the head teacher of a relevant school in Wales determines under subsection (1) may, to such extent as is reasonable and not required by subsection (2A)(c), include measures to be taken with a view to regulating the conduct of pupils at a time when they are not on the premises of the school and are not under the lawful control or charge of a member of the staff of the school.

14 Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio

(1) Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.

(2) Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—

(a) os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a

(b) os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.

(3) Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(4) Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(5) Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—

(a) bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a

(b) bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.

(6) Yr ail amod yw—

(a) yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a

(b) yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.

(7) Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8) Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.

(9) Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.

(10) Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.

(11) Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran (7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—

(a) a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,

(b) unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—

(i) oed y dysgwr,

(ii) unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod gan y dysgwr,

(iii) unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,

(iv) a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a

(v) a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.

(12) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—

(a) y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a

(b) rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.

(13) At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr “ysgol berthnasol” yw—

(a) ysgol a gynhelir,

(b) uned cyfeirio disgyblion, neu

(c) ysgol arbennig nas cynhelir.

(14) Caiff rheoliadau—

(a) diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;

(b) gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);

(c) gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2).

(15) Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)(c) yn benodol—

(a) pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;

(b) pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;

(c) darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;

(d) darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;

(e) gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;

(f) darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;

(g) ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag apelau.

Atodol

15 Canllawiau a chyfarwyddiadau

(1) Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—

(a) awdurdodau lleol;

(b) cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(c) cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.

(2) Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.

(3) Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4) Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.

16 Gwybodaeth am drefniadau teithio

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi, ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a ragnodir, wybodaeth—

(a) a ddaw i law wrth wneud asesiadau o dan adran 2(2);

(b) am asesiadau a wneir o dan yr adran honno;

(c) am y trefniadau teithio a wneir o dan y Mesur hwn;

(d) am y cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12.

17 Cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2) Rhaid i awdurdod lleol roi i awdurdod lleol arall unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol arall ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 2, 3, 4 a 6.

(3) Rhaid i awdurdod lleol roi i bennaeth ysgol berthnasol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar bennaeth ei hangen neu ei angen ynghylch ymddygiad disgybl cofrestredig yn ei ysgol tra oedd y disgybl yn manteisio ar drefniadau teithio a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan y Mesur hwn.

(4) Rhaid i bennaeth ysgol berthnasol roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar yr awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14.

18 Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol (“awdurdod B”).

(2) Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.

(3) Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.

19 Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennig

(1) Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.

(2) Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—

(a) yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu

(b) wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

(3) Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a) nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a

(b) sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(4) Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(5) At ddibenion y Mesur hwn—

(a) mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;

(b) mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.

(6) Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—

(a) at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu

(b) at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.

(7) Yn yr adran hon—

(a) mae i “cartref plant” yr ystyr sydd i “children’s home” yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);

(b) ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.

20 Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996

(1) Diwygir adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (mynychu'r ysgol) fel a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (4) rhodder—

(4) The child is not to be taken to have failed to attend regularly at the school if the parent proves that the local authority have failed to discharge—

(a) a duty to make transport arrangements in relation to the child under section 3 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b) a duty to make travel arrangements in relation to the child under section 4 of that Measure.

(3) Yn is-adran (5) yn lle “subsections (3D) and (4)” rhodder “subsection (3D)”.

21 Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002

(1) Diwygir Deddf Addysg 2002 fel a ganlyn.

(2) Diwygir adran 32 (pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol) fel a ganlyn—

(a) yn is-adran (1)(b) o flaen “the governing body” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9),”;

(b) yn is-adran (2)(b) o flaen “the times” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9)”;

(c) ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5) Subsections (1)(b) and (2)(b) do not apply in relation to a school in Wales in the circumstances specified in subsection (6).

(6) The circumstances are—

(a) that the local education authority in whose area the school is situated have given notice in writing to the governing body of the school that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection (8), and

(b) that the notice has not been withdrawn by the local education authority.

(7) A local education authority must not issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a) unless they consider a change in the times of the sessions of that school to be necessary or expedient in order to—

(a) promote the use of sustainable modes of travel within the meaning of section 11 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b) improve the effectiveness or efficiency of travel arrangements made, or to be made, by the authority under that Measure.

(8) In relation to a school subject to a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a)—

(a) where there are two school sessions on the relevant school day—

(i) the local education authority must determine the time each day at which the first school session starts and the second school session ends, and

(ii) the governing body must determine the time each day at which the first school session ends and the second school session starts;

(b) where there is one school session on the relevant school day the local education authority must determine the time each day at which the school session starts and ends.

(9) The Welsh Ministers may make provision by regulations—

(a) as to the procedure to be followed where the local education authority propose to issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a);

(b) as to the matters to be included in such a notice;

(c) as to the implementation of any determination under subsection (8);

(d) for enabling the local education authority to determine, for any purposes of the regulations, whether any person is to be treated as a parent of a registered pupil at the school.

(10) In giving notice as described in subsection (6) and in discharging any function conferred by subsections (7) or (8) or by regulations under subsection (9), a local education authority must have regard to guidance given by the Welsh Ministers.

(3) Yn adran 210 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a) yn is-adran (1) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”;

(b) ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A) Any statutory instrument containing regulations made under section 32(9) by the Welsh Ministers is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(6B) Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the National Assembly for Wales procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.;

(c) yn is-adran (7)—

(i) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii) yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

22 Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996

(1) Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2) Yn adran 455 (taliadau a ganiateir)—

(a) ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba) travel arrangements provided under section 6 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008 (“the Measure”) for a registered pupil at a maintained school in Wales, other than arrangements in respect of which, by virtue of section 454(3) of this Act or sections 3 or 4 of the Measure, no charge may be made,;

(b) yn is-adran (1)(c) ar ôl “maintained school” mewnosoder “in England” a hepgorer “or 509(2)”;

(c) ar ddiwedd is-adran (2)(b) hepgorer “or”;

(d) ar ôl is-adran (2)(b) mewnosoder—

(ba) by virtue of subsection (1)(ba) in respect of the provision for a pupil of travel arrangements, or;

(e) yn is-adran (3) ar ôl “entry” mewnosoder “travel arrangements,”.

(3) Yn adran 456 (rheoleiddio taliadau a ganiateir), yn is-adran (3) ar ôl “A regulated charge” mewnosoder “, except any charge permitted by virtue of section 455(1)(ba),”.

23 Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006

(1) Diwygir Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.

(2) Yn adran 162 (pŵer i ddiddymu cyfeiriadau at “local education authority”), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) The Welsh Ministers may by order make such provision as appears to them to be appropriate for the purpose of—

(a) repealing any reference in a Measure of the National Assembly for Wales to a local education authority (however expressed), and

(b) replacing it, where it appears to them to be appropriate, with a reference (however expressed) to a Welsh local authority.

(3) Yn adran 181—

(a) yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Any power of the Secretary of State or the Welsh Ministers to make an order or regulations under this Act is exercisable by statutory instrument.;

(b) yn is-adran (2)—

(i) yn lle “the Assembly”, y tro cyntaf y ceir yr ymadrodd hwnnw, rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii) yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

(4) Ar ôl adran 182 mewnosoder—

182A Assembly control of orders and regulations

(1) Any statutory instrument containing an order made under section 162(5A) by the Welsh Ministers may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the Assembly.

(2) Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the Assembly procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the Assembly by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.

Cyffredinol

24 Dehongli cyffredinol

(1) Yn y Mesur hwn—

  • nid yw “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg uwch;

  • ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “anabledd” yr ystyr sydd i “disability” ac i “person anabl” yr ystyr sydd i “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);

  • ystyr “anhawster dysgu” (“learning difficulty”) mewn cysylltiad â pherson yw—

    (a)

    anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu

    (b)

    anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,

    ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p.42);

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;

  • ystyr “profiad gwaith” (“work experience”) yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—

    (a)

    un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu

    (b)

    myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach,

    gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

  • ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

(2) Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989 (p.41).

(3) Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4) Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

25 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

26 Diddymiadau

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

27 Gorchmynion a rheoliadau

(1) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c) i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3) Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), adran 7 neu adran 8 hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4) Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a) y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b) Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c) is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

(5) Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6) Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7) Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a) rheoliadau o dan adran 3(9),

(b) rheoliadau o dan adran 7,

(c) rheoliadau o dan adran 8,

(d) rheoliadau o dan adran 14(14)(a), neu

(e) rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

28 Cychwyn

(1) Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—

  • yr adran hon;

  • adran 27;

  • adran 29.

(2) Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

29 Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg

(1) Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

(2) Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.